Cofnodion cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol PCS a gynhaliwyd ddydd Mercher, 12 Gorffennaf 2023 yn Ystafell Giniawa 1, 12.30-1.30pm

Yn bresennol:  Mike Hedges AS (Cadeirydd); Heledd Fychan AS (Is-Gadeirydd); Ryland Doyle (Staff Cymorth Mike Hedges); Helen West (Staff Cymorth Julie Morgan); Jayne Smith (PCS); Darren Williams (PCS).

Ymddiheuriadau:  Huw Irranca-Davies AS; Adam Price AS; Sian Boyles (PCS); Marianne Owens (PCS)

 

1.       Croesawodd y Cadeirydd y rhai a oedd yn bresennol a nodwyd yr ymddiheuriadau.

 

2.       Anghydfod cenedlaethol y PCS dros gyflog, pensiynau, swyddi a hawliau dileu swyddi

Adroddodd PCS ar yr ymgyrch gweithredu diwydiannol yr oedd wedi’i chynnal ers diwedd ei falot ar 7 Tachwedd 2022, a oedd yn cynnwys cyfuniad o gamau gweithredu parhaus wedi’u targedu gyda chyflogwyr, gweithleoedd neu grwpiau o weithwyr penodol a streiciau undydd o holl aelodau PCS a sicrhawyd drwy fandad y balot. Yng Nghymru, roedd gweithwyr a gymerodd gamau gweithredu wedi'u targedu yn cynnwys staff Llu Ffiniau'r Swyddfa Gartref sy'n gweithio ym Maes Awyr Caerdydd; archwilwyr gyrru sy'n gweithio i'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau; adrannau amrywiol yn y DVLA yn Abertawe; a staff Archwilio Cymru. Cynhaliwyd tair streic undydd, ar 1 Chwefror, 15 Mawrth a 28 Ebrill, gyda’r ddwy gyntaf wedi’u cydgysylltu ag undebau eraill, a gwelwyd ralïau streic yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys Caerdydd ac Aberystwyth.

Roedd y gweithredu wedi'i gefnogi'n gyson dda. Fe wnaeth ail falot rhwng mis Mawrth a mis Mai sicrhau mandadau ar gyfer nifer o gyflogwyr ychwanegol, a rhwng 20 Mawrth a 9 Mai, fe wnaeth balot arall adnewyddu’r mandad ar gyfer bron pob cyflogwr lle’r oedd yr undeb wedi sicrhau mandad ym mis Tachwedd.

Er na newidiodd Llywodraeth y DU ei safbwynt i ddechrau mewn ymateb i ymgyrch y PCS, roedd prif ffigur cylch cyflog y Trysorlys ar gyfer 2023/24, sef 4.5 y cant, gyda 0.5 y cant yn ychwanegol ar gyfer y rhai ar y cyflogau isaf, yn sylweddol uwch nag un y flwyddyn flaenorol, sef ffigur o 2 y cant, yr oedd yr undeb wedi disgwyl iddo gael ei ailadrodd. At hynny, bu datblygiad yn y trafodaethau â Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Jeremy Quin, ar 2 Mehefin, lle gwnaed consesiynau sylweddol, gan gynnwys cyfandaliad anghyfunol o £1500 i gydnabod pwysau costau byw yn 2022/23; ymrwymiad i drafodaethau pellach ynghylch cyflog isel, cyflogau mwy cydlynol a chryfhau mesurau i osgoi dileu swyddi; ac ymrwymiad i beidio â gwneud newidiadau pellach i Gynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil tan 2025.

Er y gadawyd y penderfyniad i dalu’r £1500 i adrannau ac asiantaethau unigol, roedd y rhan fwyaf eisoes wedi gwneud ymrwymiad i wneud hynny, ac o ganlyniad roedd disgwyl i Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol yr undeb oedi ei ymgyrch gweithredu diwydiannol, ac eithrio ar gyfer y cyflogwyr hynny sy’n gwrthod gwneud y taliad. 

Croesawodd aelodau'r Grŵp Trawsbleidiol y cynnydd a wnaed o ran anghydfod cenedlaethol yr undeb.

 

 

 

3.       Y wybodaeth ddiweddaraf am gyflogau sector datganoledig Cymru

Eglurodd PCS, er nad oedd cynnig Swyddfa’r Cabinet yn gymwys i’r gweinyddiaethau datganoledig, fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ailadrodd y dyfarniad ar gyfer ei staff gwasanaeth sifil ei hun, a daethpwyd i gytundeb i weithredu hyn gyda’r undebau llafur. Cafodd cyrff hyd braich eu hannog i dalu’r dyfarniad i’w gweithwyr eu hunain ac roedd rhai eisoes wedi dweud y byddent yn gwneud hynny, ond roedd pryderon na fyddai rhai cyflogwyr allweddol, megis Amgueddfa Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol, Comisiwn y Senedd ac Archwilio Cymru, yn dilyn esiampl Llywodraeth Cymru ac y gallai fod angen streicio i ddwyn pwysau arnynt.

Trafododd y Grŵp y materion ariannu hirsefydlog sy'n ymwneud â'r cyrff hyn a mynegodd gydymdeimlad â'u sefyllfa anodd, tra'n cefnogi dyhead yr undebau y dylai eu staff gael y taliad costau byw. Roeddent yn cynnig defnyddio pa bynnag ddylanwad a allai fod ganddynt i helpu i gyflawni hyn, yn enwedig mewn perthynas â Chomisiwn y Senedd. 

 

4.      Y wybodaeth ddiweddaraf am gontractau allanoli Chwaraeon Cymru

Adroddodd PCS, ar ôl y penderfyniad ym mis Chwefror i roi safle Plas Menai Chwaraeon Cymru ar gontract allanol gyda Legacy Leisure, is-gwmni o Parkwood Leisure, fod rhai materion wedi dechrau codi ynghylch parodrwydd ymddangosiadol y contractwr i dorri corneli am resymau ariannol. Byddai'r undeb yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau'r Grŵp ac efallai'n ceisio ymyrraeth pe bai'n ymddangos bod y sefyllfa'n mynnu hynny.

Tynnodd Heledd sylw at y ffaith mai hi bellach yn yw llefarydd Plaid Cymru ar chwaraeon, gan ei rhoi mewn sefyllfa gref i fynd i’r afael ag unrhyw faterion, a dywedodd y byddai’n cysylltu ag Aelod Senedd yr etholaeth, sef Siân Gwenllian.

 

5.       Unrhyw fater arall

Dywedodd yr undeb fod pryderon am fwriad y DVLA i roi'r gorau i ariannu'r gwasanaeth bws gwennol, gyda llawer o staff yn dibynnu arno er mwyn cyrraedd y gwaith. Fel AS yr etholaeth leol, rhoddodd Mike ei safbwynt ei hun ar y sefyllfa a’r gobaith o’i datrys.

Dywedodd aelodau’r Grŵp hefyd fod ymdrechion yn mynd rhagddynt, yr oeddent yn eu cefnogi, i ddod ag arlwyo’r Senedd yn fewnol. Yn ogystal â bod yn gydnaws â pholisi PCS ei hun, gallai hyn o bosibl gyflwyno cyfleoedd recriwtio i'r undeb.